Assessments and the Graduated Response

Efallai y bydd eich plentyn neu berson ifanc yn cael gwahanol fathau o arsylwadau ac asesiadau er mwyn helpu i benderfynu pa gymorth sydd ei angen arno er mwyn cyflawni ei botensial dysgu, cymdeithasol ac emosiynol. Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau a chyfreithiau hefyd, ar ffurf deddfwriaeth, ar gyfer ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Mae'r adran hon yn rhoi mwy o wybodaeth am y rhain.

Reviews

All children are regularly assessed. However, children with Additional Learning Needs require closer monitoring and regular reviews to ensure that they are progressing according to their age, ability and aptitude.  The annual review is an opportunity to discuss both the progress your child has made and whether any changes need to be made to the statement. Your views (and those of your child) are an important part of the review. The timing of annual reviews should reflect the circumstances of your child, such as changing schools.

The Graduated Response

The current Special Educational Needs’ Code of Practice for Wales gives guidance on the additional or different action that should be taken to meet the needs of pupils. It says that for most pupils, extra help will be provided in the classroom managed by the class or subject teacher.

This could be achieved by working with the rest of the class in small groups or on a one-to-one basis with a teacher or teaching assistant for short periods.

Different actions may need to be taken for pupils at Early Years/School Action, Early Years/School Action plus or those with Statements of SEN – this is called the Graduated Response. There are 3 levels in the Graduated Response.

Pan fydd athro dosbarth neu CADY yn nodi bod gan blentyn ADY dylai’r athro dosbarth ddarparu ymyriadau sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai sy’n cael eu darparu fel rhan o gwricwlwm a strategaethau gwahaniaethol arferol yr ysgol. Gallai ymyriad ar gam Gweithredu Gan yr Ysgol fod ar sail pryder yr athro neu rywun arall,  gyda thystiolaeth i gefnogi hynny, am blentyn sydd, er ei fod yn derbyn cyfleoedd dysgu gwahaniaethol:

  • yn gwneud fawr iawn neu ddim cynnydd o gwbl, hyd yn oed pan fo dulliau addysgu’n cael eu targedu’n arbennig yn y maes a nodir fel maes gwan y plentyn
  • yn dangos arwyddion o anhawster o ran datblygu sgiliau llythrennedd neu fathemateg sy’n arwain at gyrhaeddiad gwael yn rhai o feysydd y cwricwlwm
  • yn arddangos anawsterau emosiynol neu ymddygiadol parhaus nad ydynt yn cael eu lliniaru gan y technegau rheoli ymddygiad sy’n cael eu defnyddio yn yr ysgol fel arfer
  • â phroblemau synhwyraidd neu gorfforol, sy’n parhau i wneud fawr iawn neu ddim cynnydd er gwaethaf darparu cyfarpar arbenigol
  • ag anawsterau cyfathrebu a/neu ryngweithio, ac sy’n gwneud fawr iawn neu ddim cynnydd er gwaethaf derbyn cwricwlwm wedi’i wahaniaethu.

Mae’n ddyletswydd ar yr ysgol i hysbysu rhieni’r plentyn bod darpariaeth addysgol arbennig yn cael ei gwneud ar gyfer y plentyn oherwydd bod gan y plentyn ADY.

Dylai’r athro dosbarth lunio Cynllun Datblygu (Addysg) Unigol (CD(A)U) ar gyfer y disgybl a bydd yn trafod y cynllun gyda’r rhiant. Mae hwn yn gynllun gweithredu sy’n nodi:

  • Anawsterau’r plentyn;
  • Targedau tymor byr i’r plentyn eu cyflawni;
  • Manylion am bwy fydd yn gweithio gyda’r plentyn a pha ddeunyddiau y gallai’r plentyn fod eu hangen;
  • Pa bryd y bydd y CD(A)U yn cael ei adolygu.

Dylai Cynlluniau Datblygu (Addysg) Unigol gael eu hadolygu o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Yn ddelfrydol, dylid eu hadolygu bob tymor, neu’n amlach o bosibl ar gyfer rhai plant. Gallai o leiaf un o adolygiadau’r flwyddyn gyd-fynd â noson rieni arferol, er y dylai ysgolion gydnabod bod yn well gan rai rhieni gael cyfarfod preifat. Nid oes angen i’r adolygiadau fod yn gyfarfodydd ffurfiol, ond dylid gofyn am farn y rhieni ynglŷn â chynnydd y plentyn a dylid ymgynghori â nhw fel rhan o’r broses adolygu. Dylai ysgolion annog rhieni i fynegi eu barn. Dylai’r plentyn hefyd gymryd rhan yn y broses adolygu a chael ei gynnwys yn y broses o osod targedau pan fo hynny’n bosibl. Os nad yw’r plentyn yn cymryd rhan yn yr adolygiad, dylid ystyried ei safbwyntiau mewn unrhyw drafodaeth.

Mae’n bosibl y cewch dasgau i’w gwneud gartref gyda’ch mab neu’ch merch fel rhan o’r CD(A)U.

Os yw eich plentyn ar gam Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy o’r broses Anghenion Dysgu Ychwanegol, yna yn ogystal â’r camau Gweithredu Gan yr Ysgol, mae eich plentyn hefyd yn cael cymorth gan asiantaethau allanol yn ogystal â’r ysgol.

Mae gan bob awdurdod lleol weithwyr proffesiynol gyda gwahanol ‘arbenigeddau’ ac maent yn gweithio fel timau amlasiantaeth gyda’r ysgolion. Gallai’r rhain fod (yn dibynnu ar anghenion y plentyn) yn:

  • Seicolegydd Addysgol;
  • Athro Cymorth Ymddygiad;
  • Athro Ymgynghorol Arbenigol;
  • Gweithwyr iechyd proffesiynol eraill

Mae’r gwahanol weithwyr proffesiynol yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn eu hysgolion. Maent yn gweithio’n agos gyda staff yr ysgol er mwyn rhoi cyngor i’r ysgol ar sut i weithio gyda disgyblion unigol; efallai y byddant yn darparu asesiad arbenigol ychwanegol neu’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r plentyn. Byddant yn awgrymu targedau newydd ar gyfer CD(A)U y plentyn neu’r person ifanc.

Caiff Anghenion Dysgu Ychwanegol y mwyafrif helaeth o blant eu diwallu’n effeithiol mewn lleoliadau prif ffrwd drwy Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a mwy neu Weithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, heb fod angen i’r awdurdod addysg lleol wneud asesiad statudol. Mewn nifer fach iawn o achosion bydd angen i’r Awdurdod Lleol wneud asesiad statudol o anghenion addysgol arbennig, ac yna ystyried a ddylid rhoi datganiad neu beidio.

Mae amserlen glir wedi’i gosod ar gyfer camau’r Asesiad Statudol, ac ni ddylai broses gymryd mwy na 26 wythnos o’r dechrau i’r diwedd. Mae yna broses apelio glir hefyd ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Mae Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (CCU) yn ffordd o gydweithio a chyfathrebu’n gadarnhaol sy’n seiliedig ar gadw’r plentyn neu’r person ifanc yng nghanol y broses bob amser. Bydd safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn/person ifanc wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Mae CCU yn golygu defnyddio gwahanol fathau o adnoddau neu ddulliau er mwyn datblygu CD(A)U y plentyn neu’r person ifanc. Mae llawer o wahanol fathau o CCU ond maent i gyd yn canolbwyntio ar farn, dymuniadau a theimladau’r plentyn neu’r person ifanc, a’u dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Os oes gan eich plentyn Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol adolygu’r datganiad hwnnw bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cynnal adolygiad, bob 12 mis o leiaf, o gynnydd y plentyn neu’r person ifanc tuag at gyflawni’r amcanion a nodir yn y datganiad. Gellir adolygu datganiadau yn amlach lle bo angen.

I ddisgyblion mewn ysgolion prif ffrwd, yr adolygiadau blynyddol a gynhelir ym Mlwyddyn 5 yw’r rhai allweddol lle dylid trafod pa fath o ysgol y dylent ei mynychu nesaf.

Os argymhellir y dylai disgybl fynychu ysgol arbennig neu uned adnoddau dysgu sydd ynghlwm wrth ysgol brif ffrwd, bydd yn rhaid i bapurau’r disgybl gael eu hystyried gan banel. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i’r adolygiad ym Mlwyddyn 10, os penderfynir gwneud cais am le mewn ysgol arbennig ar gyfer darpariaeth ôl-16.

Os cytunir ar leoliad arbenigol, rhaid newid datganiad y disgybl erbyn Chwefror 15fed er mwyn iddynt allu symud i’w hysgol newydd y mis Medi canlynol.

Cyn yr adolygiad blynyddol

Bythefnos cyn dechrau’r tymor ysgol, rhaid i’r Awdurdod Lleol hysbysu’r pennaeth, yn ysgrifenedig, o ba ddisgyblion sy’n rhaid adolygu eu datganiadau yn ystod y tymor hwnnw.

Bydd y pennaeth yn eich gwahodd chi ac unrhyw weithwyr proffesiynol perthnasol i’r cyfarfod adolygu. Yna, bydd y pennaeth yn gofyn am wybodaeth ysgrifenedig am gynnydd eich plentyn ynghyd ag addasrwydd y datganiad, gennych chi a gan unrhyw weithwyr proffesiynol y mae’r awdurdod lleol a/neu’r pennaeth yn credu sy’n briodol.

O leiaf bythefnos cyn y cyfarfod adolygu, bydd y pennaeth yn dosbarthu unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig ac yn gwahodd sylwadau. Mae eich barn chi’n bwysig iawn. Wrth roi eich gwybodaeth ysgrifenedig a darllen yr wybodaeth gan bobl eraill sy’n rhan o’r adolygiad blynyddol, efallai yr hoffech feddwl am y pynciau a nodwyd gennych pan y bu i chi, fel rhiant, roi’r wybodaeth wreiddiol ar gyfer asesiad statudol eich plentyn a gwirio’r datganiad arfaethedig.

Y Cyfarfod Adolygu

Yn aml dim ond y chi, athrawon o ysgol eich plentyn ac efallai aelod o staff yr Awdurdod Lleol fydd yn y cyfarfod adolygu. Nid yw gweithwyr proffesiynol eraill yn mynychu cyfarfodydd adolygu blynyddol arferol fel arfer, ond byddant yn mynychu os oes angen trafod anghenion penodol, neu os fydd y cyfarfod adolygu blynyddol yn trafod cyfnod pontio eich plentyn. Gallwch fynd â ffrind, perthynas neu rywun o’r gwasanaeth partneriaeth rhieni i’r cyfarfod adolygu i’ch cefnogi.

Dylai’r cyfarfod adolygu ystyried a yw datganiad eich plentyn yn dal i fod yn addas, a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r datganiad ac a ddylai’r awdurdod lleol barhau i gynnal y datganiad.

Dylai’r cyfarfod edrych ar y cynnydd a wnaed o ran y targedau blaenorol a darparu targedau newydd ar gyfer eich plentyn y ystod y flwyddyn sydd i ddod. Dylai’r rhain gyflawni’r amcanion a nodir yn y datganiad.

Ar ôl y cyfarfod adolygu

O fewn deng niwrnod i’r cyfarfod adolygu, mae’n rhaid i’r pennaeth baratoi a chyflwyno adroddiad i’r Awdurdod Lleol.

Bydd yr adroddiad yn crynhoi casgliadau’r cyfarfod ac yn cynnwys argymhellion, gyda rhesymau, a ddylid diwygio neu gynnal y datganiad. Bydd y pennaeth hefyd yn anfon copi o’r adroddiad i chi ac i unrhyw weithwyr proffesiynol sy’n rhan yn y broses adolygu.

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ddatganiad eich plentyn.

Gallant benderfynu:

  • Diwygio (newid) y datganiad
  • Gadael y datganiad heb ei newid
  • Rhoi’r gorau i gynnal y datganiad.

Gallwch wahodd eich Cynrychiolydd Partneriaeth Rhieni neu unrhyw un arall o’ch dewis chi i’r cyfarfod gyda chi. Efallai y bydd eich plentyn hefyd yn mynychu’r cyfarfod adolygu ar ei hyd neu ran ohono, fel y bo’n briodol. Po hynaf yw’r plentyn, y mwyaf tebygol y byddant o gymryd rhan.

Cyn y cyfarfod ysgol/adolygu – byddwch yn barod!

Ydw i’n gwybod:

  • Ble mae’r cyfarfod? (Sut i gyrraedd yno, ble i barcio ayb)
  • Faint o’r gloch mae’r cyfarfod? (Pryd? Pa mor hir fydd y cyfarfod yn para?)
  • Pwy fydd yno?
  • Pam bod y cyfarfod yn cael ei gynnal?
  • Beth ydw i am ei gyflawni?
  • Pa ganlyniadau gall rhai eraill sy’n bresennol fod eu heisiau?
  • Sut ydw i’n teimlo – sut ddylwn i ymddwyn?
  • Sut mae pobl eraill yn teimlo – sut fyddan nhw’n ymddwyn?
  • Ydw i wedi ysgrifennu’r holl gwestiynau yr wyf am eu gofyn i lawr ar bapur?
  • Oes gen i’r holl wybodaeth a’r gwaith papur sydd ei angen?
  • A fydd rhywun yn cymryd nodiadau? (Partner neu ffrind o bosibl)
  • Ydw i am i rywun fynd gyda mi i’r cyfarfod? (Partner, ffrind ayb)
  • Ydw i wedi gofyn barn fy mhlentyn neu a fydd fy mhlentyn yno?

Ar ôl y Cyfarfod:

  • Ydw i wedi deall popeth a ddywedwyd? (Gall fod yn ddefnyddiol cadarnhau hyn gyda’r ysgol drwy e-bost neu lythyr).
  • Ydw i’n hapus gyda’r ffordd yr aeth y cyfarfod?
  • Ydw i’n teimlo ein bod wedi dod i gytundebau y gall pawb gadw atyn nhw?
  • Ydy pawb yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud nesaf?
  • Beth ydw i’n ei wneud nesaf?
  • A oes rhywun yn cydlynu’r camau gweithredu?
  • A fydda i’n cael nodiadau neu gofnodion o’r cyfarfod?
  • Os yw’n gyfarfod adolygu blynyddol, a fydda i’n gweld y ffurflen Adolygiad Blynyddol cyn iddi gael ei hanfon at yr Awdurdod Lleol?
  • Pa bryd y byddwn yn adolygu’r cynnydd?

Font Resize
Contrast